Cynulliad Cenedlaethol Cymru | National Assembly for Wales

Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg | Children, Young People and Education Committee

Ymchwiliad i Gynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg | Inquiry into Welsh in Education Strategic Plans

 

WESP 28

Ymateb gan : Rhieni dros Addysg Gymraeg (RhAG)

Response from : Parents for Welsh Medium Education

Cwestiwn 1

Yn eich barn chi, a yw Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg yn cyfrannu at y deilliannau a’r targedau a nodir yng Nghynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg Llywodraeth Cymru?

Mae’r Cynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg (CSGA) yn cynnig cyfle hanesyddol i sicrhau cynllunio cadarn, rhagweithiol ar sail statudol, fydd yn cyfrannu at gyrraedd targedau cenedlaethol Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg (SACC), Llywodraeth Cymru.

 

Dylai pob cynllun strategol fod yn gerbyd effeithiol i hwyluso a datrys y rhwystrau presennol sy’n llesteirio twf addysg Gymraeg a galluogi Awdurdodau Lleol i gynyddu lleoedd.  Yn sylfaenol felly mae angen i’r siroedd bennu targedau clir a chydlynol yn seiliedig ar y weledigaeth fod dyletswydd arnynt bellach nid yn unig i ddiwallu’r galw ond yn hytrach i hybu twf.

 

Fel un o’r rhanddeiliaid sydd wedi cymryd rhan yn y broses graffu ac wedi cyfrannu sylwadau ar ddrafftiau CSGA pob un o’r siroedd, daeth yn amlwg nad yw’r mwyafrif mewn gwirionedd wedi cydio yn y feddylfryd newydd sydd bellach yn ddisgwyliedig ohonynt.

 

Ar y cyfan bernir fod y Cynlluniau sydd wedi’u cyflwyno gan y Siroedd yn annigonol ac yn ddi-uchelgais.  Yn gyffredinol mae diffyg targedau pendant a mesuradwy.  Mae Adroddiad Blynyddol SACC 2012-13 eisoes wedi cydnabod na fydd modd cyrraedd targedau 2015, ond heb gynlluniau gweithredu pendant a bwriadus gan lywodraeth leol fydd dim gobaith chwaith o gyflawni targedau 2020, sef 30% o blant 7 oed yn derbyn addysg Gymraeg.

Felly mae RhAG yn gresynu ond nid yn synnu na fydd yn bosib cyrraedd y targedau sydd wedi’u gosod yn Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg, Llywodraeth Cymru.

 

Pryder RhAG ydy nad yw’r Cynlluniau yn eu ffurf bresennol yn adlewyrchu ysbryd na llythyren Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013, trwy amlinellu sut y bydd pob awdurdod lleol yn cyflawni’r canlyniadau a’r targedau a bennir yn y Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg.

 

Ymddengys nad oes cyd-berthynas amlwg rhwng targedau’r SACC a’r CSGAau ar lefel unigol.

 

Er bod y Cynlluniau ar y cyfan yn nodi bod ALl am weld llwyddiant addysg Gymraeg, yn gyffredinol mae diffyg gweledigaeth ynghyd â chamau gweithredu rhagweithiol, pendant er mwyn cyrraedd targedau’r SACC.  Mae rhai siroedd wedi mynd ati i nodi eu bwriadau’n glir, a byddai’n dda i siroedd eraill Cymru eu hefelychu e.e. siroedd de-ddwyrain Cymru .

 

Does dim digon o dystiolaeth sy’n dynodi’r disgwyliad bod angen i ALl ysgogi a hyrwyddo twf addysg Gymraeg.  Adlewyrchir hynny yn ieithwedd wan llawer o’r cynlluniau lle ceir datganiadau amwys y bydd siroedd yn parhau i ‘ystyried’, ‘amcanu’ neu’n ‘monitro’r sefyllfa’ yn hytrach na gweithredu o ddifrif.

 

Does dim digon o sôn am fesur y galw nac ymateb i arolygon sydd eisoes wedi digwydd. Ychydig iawn sydd o dargedau penodol, heriol a mesuradwy wedi’u gosod fydd yn arwain at gynnydd gwirioneddol.  Nid yw’n ddigonol cydnabod fod bwlch o ran gwasanaeth: mae angen gweithredu e.e CNPT, RhCT, Merthyr, Wrecsam

 

Does dim digon o dystiolaeth bod ALl yn mabwysiadu ac yn gweithredu prosesau cadarn ar gyfer mesur y galw am addysg Gymraeg (oedran statudol) a chyn-ysgol ac ymateb i ganfyddiadau’r arolygon rhieni.  Yn wir, rhaid gofyn fel rhan o’r cylch cyntaf hwn, faint o’r siroedd sydd wedi mynd ati i fesur y galw yn unol â’r gofyniad statudol ohonynt bellach gan ddilyn trefn rhagnodedig y rheoliadau?

 

Does dim digon o ddadansoddi lleol o safbwynt ysgolion unigol sy’n medru trawsnewid sefyllfa sirol.  Mae gormod o osodiadau a thargedau cyffredinol, annelwig ac amhenodol sy’n rhoi camargraff o sefyllfa sir gyfan, ac yn celu gwendidau a all fod yn gysylltiedig â rhannau o’r siroedd neu ag ysgolion unigol. Yn amlach na pheidio mae llawer o’r hyn sy’n digwydd yn ddibynnol ar ysgolion unigol ac felly mae’n rhaid enwi rhain yn y cynllun a llunio camau gweithredu penodol er mwyn mynd i’r afael â’r sefyllfa  e.e Sir Gâr, Ceredigion

 

Diffyg targedau twf penodol h.y agor ysgolion newydd.

Nifer bychan o gynlluniau sydd wedi cyfeirio at sefydlu ysgolion o’r newydd:Abertawe, Caerdydd, RhCT, Sir y Fflint a Phenfro, er bod yr olaf wedi derbyn sêl bendith cyn oes y Cynllun newydd. Deallwn fod cynlluniau ar y gweill mewn rhai mannau nad oes modd manylu arnynt.

Mae cryn anghysondeb yn y cynlluniau gan nad oes dyddiad neu leoliad pendant ar gyfer pob cynnnig.  O safbwynt gweddill y siroedd ceir cynlluniau i adleoli neu ehangu’r ddarpariaeth bresennol.

 

Ers cyhoeddi’r CSGAau rydym wedi gweld sawl Awdurdod Lleol yn gwneud tro pedol e.e.

Sir Ddinbych: Ysgol Pentrecelyn, sef bwriad i israddio ysgol gynradd categori 1 cyfrwng Cymraeg yn ysgol categori 2 dwyieithog fel rhan o gynlluniau i ad-drefnu ac uno ysgolion:

 

Caerdydd: Grangetown: torri addewid gwreiddiol ynghylch sefydlu ysgol Gymraeg newydd.  Mae’r cynllun yn awr yn mynd yn ei flaen, ond lle dylai’r ysgol fod yn agor yn 2015 ni fydd hyn yn bosib tan 2017 erbyn hyn.

CNPT: cynnig diffygiol o safbwynt sefydlu ail ysgol uwchradd a dim gweledigaeth o ran cynyddu’r sector cynradd.  Mae oedi pellach i’r cynlluniau sy’n peri pryder o safbwynt cyflawni’r cynllun o gwbl.

Sir y Fflint: cynnig i gau Ysgol y Mornant, un o’r 5 ysgolion cynradd Cymraeg y sir.

Wrecsam: plant wedi’u gwrthod yn y Meithrin a’r Derbyn yn Ysgol Bro Alun ond dim cynnig am ddatrysiad ystyrlon yn sgil hynny.

 

Mae’r achosion hyn yn profi nad yw’r CSGAau hyd yn hyn wedi cyflawni eu amcanion, yn wir mewn nifer o siroedd mae enghreifftiau o sefyllfa ble mae’r CSGAau yn ymddangos yn gwbl ddiamydferth.

 

Mae amwysedd y CSGAau yn parhau: nid ydynt yn ddogfenni amlwg a hygyrch i’r cyhoedd a rhanddeiliaid pwysig fel rhieni e.e prin iawn yw amlygrwydd y dogfenni hyn ar wefannau’r ALl. Mae angen mwy o dryloywder ac eglurder ynghylch SUT bydd y CSGAau yn hwyluso newid a gwella’r drefn bresennol mewn ffyrdd ymarferol.

 

Cam cyntaf yn unig yn y broses o gyflymu’r ymateb i’r galw cynyddol am Addysg Gymraeg oedd lansio’r Strategaeth nôl yn Ebrill 2010: gweithredu’r rhaglen waith yn effeithiol yw’r unig ffordd o gyflawni’r targedau â bennir ynddo.  Rhaid i’r Siroedd a’r Llywodraeth berchnogi eu cyfrifoldebau yn hynny o beth a’r CSGAU yw’r erfyn i gyflawni hynny.

Os ydych o’r farn nad yw Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg yn cyfrannu ddigon, sut y gellir datrys hyn?

Yr unig ffordd y bydd modd cael y maen i’r wal yw trwy bartneriaeth ddidwyll rhwng llywodraeth ganol a lleol gyda chyfrifoldebau’n gorwedd ar y ddwy ochr.

 

Mae’n glir nad yw’r mwyafrif o’r Cynlluniau wedi cyrraedd y safon ddisgwyliedig, gan nad yw targedau’r 22 CSGA yn ddigon i gyrraedd targed y SACC ar gyfer nifer y bobl ifanc sydd yn derbyn addysg cyfrwng Cymraeg ac sy’n dod yn siaradwyr Cymraeg.

 

Mae angen i’r siroedd bennu targedau clir a chydlynol i ddiwallu’r galw a hybu twf.  Yn yr un modd mae angen i Lywodraeth Cymru gryfhau’r drefn gynllunio a gweithredu proses graffu a gwerthuso gadarn; ac os gwelir na fydd cynlluniau’n cyrraedd y safon ddisgwyliedig, rydym yn disgwyl i’r Gweinidog Addysg ddefnyddio ei rymoedd newydd i ddiwygio cynlluniau gwan.  Rhaid rhoi neges glir na fydd diffyg cydymffurfiaeth yn dderbyniol er mwyn troi consensws ac ewyllys gwleidyddol cenedlaethol yn weithredu o ddifrif ar lawr gwlad.

 

Dylai pob cynllun strategol fod yn gerbyd effeithiol i hwyluso a datrys y rhwystrau presennol sy’n llesteirio twf addysg Gymraeg a galluogi Awdurdodau Lleol i gynyddu lleoedd.  Mae RhAG wedi rhagamcanu y bydd angen rhwng 80 a 100 ffrwd ychwanegol (30 o blant) er mwyn cyrraedd y nod. Ar hyn o bryd mae’r Cynlluniau’n syrthio’n brin iawn o’r  targed hwnnw, ac felly o darged Llywodraeth Cymru.

 

Mae angen i’r Llywodraeth gynnig fframwaith a chyfarwyddyd clir er mwyn dangos sut y mae disgwyl i ALl ymateb i’r galw a chyflymu twf mewn dulliau mwy rhagweithiol.

e.e Beth yw’r trothwy disgwyliedig o ran agor ysgol newydd

      Cymorth a chanllawiau o ran newid cymeriaid ieithyddol ysgol a’u troi yn ysgolion   

      Cymraeg

 

Mae’r cyswllt rhwng llywodraeth ganol a llywodraeth leol yn broblem barhaus. Mae’r pwerau gweithredu mewn sawl maes yn nwylo Awdurdodau Lleol yn hytrach na’r Llywodraeth ganol ar hyn o bryd.

 

Yn yr un modd, mae’r cyswllt rhwng gwahanol adrannau o fewn Llywodraeth Cymru ac ALl yn wan.  Yn gyffredinol mae pob un yn gweithredu o fewn ei wagle ei hun heb awgrym bod unrhyw gyfathrebu clir yn digwydd rhyngddynt.  Mae angen i’r adrannau hyn weithredu mewn dull llawer mwy cyfannol a chyd-gysylltiedig wrth gynllunio’r ddarpariaeth e.e trafnidiaeth, blynyddoedd cynnar, trechu tlodi, cynllunio tai.  Dylai’r un egwyddor fod yn sail i berthynas gydag asiantaethau neu gyrff allanol e.e Byrddau Iechyd pan fydd angen mynediad at ddata genedigaethau.  Mae’r berthynas honno wedi bod yn un heriol yn y gorffennol ac wedi profi’n llyffethair yn y gwaith o flaen-gynllunio.

 

Os bydd ALl yn llusgo traed neu’n gwrthod dilyn canllawiau, mae angen eglurder ynglŷn â grym Llywodraeth y Cynulliad i ymyrryd.  Mae angen gwybod beth yw’r ‘trigger point’ neu’r trothwy i’r Gweinidog ymyrryd lle mae diffygion amlwg neu ddiffyg gweithredu gan ALl.

 

Oes digon o bwysau yn cael ei roi ar ALl i sicrhau eu bod yn cyflawni’r ymrwymiadau sydd yn y CSGAau? Ydy rôl y Gweinidog yn ddigon cryf o ran sicrhau bod yr awdurdodau yn atebol yn mynd i’r afael â’r ymrwymiadau hynny ac i ymyrryd ble mae’r cynlluniau’n wan ac yn ddi-uchelgais?  Mae angen sicrhau atebolrwydd yn yr holl broses: o safbwynt ALl a’r Llywodraeth.

 

Mewn perthynas â thargedau’r strategaeth mae angen eglurder gan y Llywodraeth ynglŷn â’r dulliau y bydd Awdurdodau Lleol yn eu mabwysiadu i gyflawni’r targedau hynny sy’n ddisgwyliedig ohonynt.  Mae angen i Lywodraeth Cymru fod yn gwbl glir ynglŷn â’u disgwyliadau yn flynyddol o ran cyflawni targedau.

 

Roedd y Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg gwreiddiol yn cynnwys targedau twf ar gyfer pob ALl – mae angen ailgyflwyno’r rhain yn rhan o’r gyfundrefn bresennol

 

Roedd RhAG yn siomedig na welwyd bod angen cynnwys unrhyw gyfeiriad at addysg Gymraeg o fewn Mesur y Gymraeg 2011, gyda’r awgrym fod yr holl bwerau yn bodoli yn barod. Rydym eto i weld bod hynny’n wir.

 

Mae RhAG o’r farn bod angen gwireddu’r cymal yn y Strategaeth sy’n cyfeirio at “ystyried dulliau pellach o ddylanwadu ar gyfeiriad strategol addysg cyfrwng Cymraeg, gan gynnwys deddfwriaeth bosibl.”

 

Credwn bod angen cymryd camau statudol pellach i gryfhau’r drefn gynllunio.

 

Ar hyn o bryd mae’r holl ddeddfwriaeth yn bytiog a darniog ac wedi’i ymgorffori mewn deddfau eraill.  Mae RhAG yn argymell llunio Bil Addysg Cyfrwng Cymraeg a fyddai’n fodd o gwmpasu holl anghenion y maes trwy dynnu ynghyd yr holl edefynnau o safbwynt deddfwriaeth bresennol ac yn cynnig eglurder ac arweiniad diamwys yn y maes.

 

Byddai hefyd yn cynnig cyfle i gryfhau’r gyfraith bresennol.  Byddai RhAG yn dymuno fod y meysydd canlynol yn rhai blaenllaw i’w cynnwys mewn unrhyw ddeddfwriaeth newydd:

 

·         Gweithredu ar ganfyddiadau arolygon mesur y galw mewn cyfnod rhesymol

 

·         Dilyniant ieithyddol er mwyn atal disgyblion rhag llithro o’r Gymraeg fel iaith gyntaf i ail-iaith.  Rhaid nodi na fyddai hyn yn dderbyniol yng nghyd-destun unrhyw bwnc arall felly holwn pam fod hyn yn dderbyniol o ran y Gymraeg?

 

·         Gweithredu effeithiol wrth gynllunio addysg Gymraeg.  Mae hyn yn cynnwys gwireddu addewidion o ddatblygiadau cynhwysiedig mewn cynllun

 

·         Sicrhau nad oes modd i siroedd weithredu mewn modd sydd yn gwanychu neu lastwreiddio’r ddarpariaeth bresennol.

 

·         Mae angen system i wneud yn iawn (redress) neu i gosbi siroedd sy’n methu cyflawni eu dyletswydd i wireddu ymrwymiad yn y CSGAau.

 

·         Pennu targedau penodol er mwyn hyfforddi, recriwtio a chynyddu’r gweithlu

Cwestiwn 2

Yn eich barn chi, a yw Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg yn sicrhau’r newidiadau angenrheidiol mewn awdurdodau lleol, neu a allant wneud hynny (er enghraifft, sicrhau eu bod yn darparu ar gyfer unrhyw gynnydd yn y galw am addysg Gymraeg)?

Mae ALl yn parhau i ddatgan bod nifer digonol o leoedd cyfrwng Cymraeg ar gael i gwrdd â’r galw ond yn amlach na pheidio nid yw’r lleoedd hynny o reidrwydd yn y mannau cywir iddynt fod yn ddewis cyfleus ac ymarferol i rieni.  Mae hynny’n gosod rhieni sy’n dymuno dewis addysg Gymraeg dan anfantais ac yn eu gorfodi i ddewis y ddarpariaeth agosaf, sef yn amlach na pheidio, darpariaeth cyfrwng Saesneg.  Mae hyn yn milwrio’n erbyn amcanion y SACC e.e Wrecsam, Caerdydd, Pen-y-bont ar Ogwr, Mynwy.

 

Mae’r gyfundrefn yn parhau i fod yn araf a’r pwyslais yn parhau i fod ar brosesau yn hytrach na deilliannau.  Mae angen gwyrdroi hyn ar fyrder.

 

Tra’n cydnabod bod diffyg manylder yn anochel mewn rhai achosion, mae angen targedau mesuradwy i ehangu’r ddarpariaeth bresennol, gyda phwyslais ar sefydlu ysgolion newydd fel bod addysg Gymraeg ar gael yn fwy lleol.  Does dim digon o dystiolaeth bod ALl yn cynyddu mynediad at ddarpariaeth blynyddoedd cynnar na chynradd statudol o fewn cymuned y plentyn fel sydd wedi’i nodi yn y SACC.

 

Pa fesurau mae ALl wedi’u mabwysiadu i gynllunio’n rhagweithiol i alw yn y dyfodol, gan gynnwys rhoi ystyriaeth i’r galw ychwanegol sy’n rhwym o ymddangos pan mae ysgol newydd Gymraeg gyfleus yn agor? e.e Abertawe, Caerdydd, Wrecsam

 

Mae rhai siroedd megis Torfaen lle gwelwyd cynnydd a thwf aruthrol yn ystod y blynyddoedd diwethaf ond sydd nawr yn profi gostyngiad yn y niferoedd - sut mae cynnal y momentwm?  Mae’n amlwg bod angen hyrwyddo mwy effeithiol a darparu rhagor o ysgolion Cymraeg yn agosach at gartrefi.

Mae gormod o bwyslais yn amlach na pheidio ar ganoli darpariaeth ac ystyriaethau arbed arian.

 

Hefyd, mae pryder bod yr agenda gwaredu lleoedd gweigion, sydd yn y gorffennol wedi bod o fantais i dyfu’r sector cyfrwng Cymraeg, hefyd yn medru bod yn felltith gan bod ALl yn medru:

(i) peidio symud i agor ysgolion newydd oherwydd pryder y bydd hynny’n ‘creu lleoedd gweigion newydd’

(ii) cynlluniau ad-drefnu sy’n peryglu natur, cymeriad a statws darpariaeth Gymraeg bresennol

 

Cydweithio traws-sirol a dalgylchoedd

 

Mae angen i Lywodraeth Cynulliad Cymru lunio canllawiau sy’n sicrhau bod cydweithio parod yn digwydd rhwng awdurdodau addysg lleol wrth iddynt gynnig darpariaeth addysg Gymraeg. 

 

Mae angen i ysgolion adlewyrchu cymunedau yn hytrach na ffiniau siroedd.

Mae angen i ysgolion uwchradd Cymraeg gydweithio ar draws siroedd.

Byddai’n dda gweld lleihad yn nifer yr awdurdodau addysg lleol.

 

Mae ffiniau sirol yn aml yn mynd yn groes i ffiniau cymunedau naturiol, ac mae angen creu prosesau bod disgyblion yn gallu mynychu eu hysgol Gymraeg agosaf, os yw honno mewn sir gyfagos.  Mae dalgylchoedd y mwyafrif helaeth o ysgolion Cymraeg yn llawer mwy na rhai cyfatebol yr ysgolion Saesneg, ac mae’r daith i’r ysgol Gymraeg felly yn hirach.

 

Weithiau mae ysgolion Cymraeg yn cael eu sefydlu heb ddalgylchoedd penodol neu gyda dalgylchoedd sy’n newid yn gyson.  Mae enghreifftiau o ALl yn gosod dalgylch ar ysgol er mwyn cyfyngu ar ei niferoedd derbyn.  Mae gweithredu o’r fath, heb sicrhau darpariaeth addysg Gymraeg ychwanegol, yn milwrio yn erbyn datblygu addysg Gymraeg.

 

Ym Mhen-y-bont ar Ogwr mae cynllun i adleoli ysgol Gymraeg, fydd yn symud y ddarpariaeth allan o’r gymuned leol, heb gynyddu maint yr ysgol ond yn cynyddu’r dalgylch.

 

Mae rhai Siroedd yn rhy fach i ddarparu addysg Gymraeg 3 – 18 yn effeithiol, yn enwedig yn ne-ddwyrain Cymru, ac mae cydweithio rhyng-sirol yn hanfodol.

 

Mae RhAG yn cyd-weld â’r dymuniad i leihau nifer yr awdurdodau addysg er mwyn hwyluso trefniadau addysg rhanbarthol.

 

Marchnata Addysg Gymraeg

Ers diflaniad Bwrdd yr Iaith Gymraeg, mae bwlch amlwg o ran hyrwyddo addysg Gymraeg: me angen adeiladu hyrwyddo i fod yn rhan allweddol o’r SACC.

 

Nodwn fod ymgyrch benodol gan y Llywodraeth i hyrwyddo addysg Gymraeg a manteision dwyieithrwydd ond mae’n bryder bod ymwybyddiaeth gyffredinol am yr ymgyrch honno yn isel iawn.  Does fawr ddim cyfeiriad at gymhathu’r ymgyrch fel rhan ganolog o’r CSGAau.  Mae diffyg pwyslais digonol, neu yn achos nifer o’r siroedd, dim pwyslais o gwbl ar hyrwyddo addysg Gymraeg yn rhagweithiol er mwyn symbylu twf.  Mewn ambell sir mae diffyg ymwybyddiaeth o’r dyletswydd i hybu twf e.e. Sir Fynwy.

 

Mae angen ymrwymiad llawn a buddsoddiad ariannol teilwng i drawsnewid y gwaith dan sylw.  Mae angen i’r Llywodraeth berchnogi manteision deallusol a gwybyddol dwyieithrwydd trwy osod profiad Cymru mewn cyd-destun rhyngwladol.

 

Dylid llunio strategaeth gydlynol, gyfannol i ddarparu gwybodaeth clir i rieni yn seiliedig ar ymchwil rhyngwladol yn y maes.  Dylid cyplysu hynny gyda gwaith o safbwynt trosglwyddiant iaith yn y cartref a phontio defnydd iaith tu allan i’r dosbarth trwy fabwysiadau’r feddylfryd o daith iaith y teulu cyfan.

 

Mae rhieni’n awchu am y wybodaeth: mae’n rhaid i’r Llywodraeth arwain ar hyn ar fyrder.

 

Diffiniadau

Er bod diffiniadau wedi’u cynnig yn genedlaethol am wahanol sefydliadau addysgol sy’n cynnig addysg trwy gyfrwng y Gymraeg, nid yw awdurdodau addysg lleol yn aml yn rhoi gwybodaeth glir i rieni am yr ysgolion yn eu gofal.

 

Mae angen i awdurdodau addysg lleol a llywodraethwyr ysgolion nodi’n glir i ba ddiffiniad ieithyddol y mae eu hysgolion yn perthyn, fel bod modd i rieni wneud dewisiadau ystyrlon.

Rhaid rhoi mwy o bwyslais ar ddeilliannau ieithyddol tebygol y gwahanol fodelau: rhaid cael mwy o onestrwydd ynghylch hyn.

 

Rydym yn annog cymeradwyo’r argymhelliad yn Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg sy’n nodi y dylid darparu Addysg Gymraeg o fewn sefydliadau lle y mae amgylchedd Cymraeg yn hytrach nag o fewn ysgolion dwyiethog lle digwydd llawer o’r rhyngweithio rhwng staff a disgyblion yn Saesneg, ac mai dim ond er mwyn gwella dulliau mewn ysgolion Saesneg eu cyfrwng y dylid cynnig darpariaeth ddwyieithog, ac yn bendant nid ar draul Addysg Gymraeg.

 

Darparu gwybodaeth i rieni

Mae rhieni’n aml heb gael gwybodaeth am yr ysgolion Cymraeg yn eu hardal. Mae hyn yn wir yn aml pan gaiff ysgol newydd ei sefydlu neu pan gaiff dosbarthiadau eu cychwyn.  Mae arolwg a gynhaliwyd gan RhAG wedi dangos fod gwefannau ALl a llyfrynnau gwybodaeth i rieni yn wan o safbwynt rhannu gwybodaeth hygyrch a chynhwysfawr am ddarpariaeth addysg Gymraeg yn lleol.

 

Mae angen i rieni gael gwybodaeth ar bolisïau derbyn, niferoedd, dalgylchoedd, cludiant sydd ar gael yn ogystal â gwybodaeth am natur ieithyddol yr addysg, y sgiliau ieithyddol a enillir a’r gefnogaeth sydd ar gael.

 

Mae angen hefyd i rieni gael gwybod am y cysylltiad rhwng cylchoedd y Mudiad Meithrin a’r ysgol leol ac am ddilyniant i addysg uwchradd.

 

Cefnogi rhieni

Mae angen i rieni gael cefnogaeth lawn wrth iddynt anfon plant i ysgolion Cymraeg. 

 

Nid oes corff ar hyn o bryd yn gyfrifol am oruchwylio a threfnu ‘taith iaith’ rhieni a’u plant: mae angen rhoi blaenoriaeth i hyn.  Byddai hyn yn gam allweddol tuag at roi cefndir teuluol a chymdeithasol ystyrlon i ysgolion Cymraeg mewn ardaloedd Seisnigedig, ac yn gyfraniad at ddefnyddio’r Gymraeg y tu allan i’r system addysg.  Dylid trefnu hyn ar lefel deuluol, gymunedol ac addysgol, gan roi rôl i TWF, Mudiad Meithrin, Cymraeg i Oedolion ac athrawon, ac mae angen sefydlu peirianwaith trefnu a goruchwylio.

Rydym yn argymell y dylid clustnodi cyllideb benodol ar gyfer cyflawni gwaith hyrwyddo a chefnogi ac i roi’r cyfrifoldeb i sefydliad profiadol yn y maes neu i bartneriaeth o fudiadau weithio ar y cyd.

 

Er bod rhieni’n derbyn pecyn TWF, mae angen gwaith dilynol sy’n cyfleu i rieni negeseuon am fywyd a diwylliant Cymraeg.  Dylai’r gefnogaeth gynnwys gwybodaeth am chwaraeon Cymraeg, caneuon, a sut i siarad Cymraeg â phlant.

 

Mae angen cynnig rhaglen ddwys o ddysgu a gloywi Cymraeg i rieni, gan flaenoriaethu rhieni sy’n awyddus i droi iaith y cartref i’r Gymraeg.  Byddai rhaglen codi hyder yn werthfawr, gan droi siaradwyr goddefol yn siaradwyr gweithredol.

Os ydych o’r farn nad yw Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg yn sicrhau newidiadau, neu na allant wneud hynny, sut y gellir datrys hyn?

Mae awgrymiadau wedi eu hymgorffori yn yr ateb blaenorol.

Cwestiwn 3

Beth yw eich barn ar y trefniadau ar gyfer pennu targedau; monitro; adolygu; cyflwyno adroddiadau; cymeradwyo a chydymffurfio â gofynion Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg (a rôl awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru yn y cyswllt hwn)?

Cyfeiriwn at adroddiad interim ARAD a gyhoeddwyd yn gynharach eleni, oedd yn cynnig gwerthusiad o’r cynnydd a wnaethpwyd hyd yma ar nodau ac amcanion y Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg.  Roedd yr adroddiad yn un cadarnhaol o safbwynt RhAG, ac yn nodi nifer o fannau gwan wrth weithredu’r strategaeth.

 

Roedd yr adroddiad yn cydnabod bod diffyg tystiolaeth am well cynllunio yn dilyn y Strategaeth.

 

Mae’r dystiolaeth am dwf ers y Strategaeth yn un siomedig.  Roedd 21% o blant 7 oed yn derbyn addysg Gymraeg yn 2009 (y flwyddyn cyn llunio Strategaeth y Llywodraeth), a phum mlynedd yn ddiweddarach, y % yw 22.4%. Y nifer yn 2002 oedd 6563, a 7227 yn 2012, sy’n anobeithiol o araf.

 

Dylai hyn beri bod clychau rhybudd yn canu’n llawer mwy clir.

 

Rydym yn amau’n fawr y gosodiad yn yr adroddiad (4.10) nad yw’n realistig disgwyl gweld effaith y cynlluniau’n llawn erbyn 2015, a bod angen rhaglen fonitro a gwerthuso dros dymor hir.  Mae cynlluniau gwan cynifer o awdurdodau lleol yn galw am sylw brys, a dylai prosesau’r Llywodraeth fod yn llawer mwy cadarn ac anoddefgar o ddiffyg gweithredu cadarnhaol, fel bod modd rhagweld effaith (wedi dweud hynny, doedd dim twf dros gyfnod Strategaeth Addysg Gymraeg Bwrdd yr Iaith: yn y Cyfnod Sylfaen yn 2000/1 roedd 13,707 ac erbyn 2008/09 13,186)

 

Ceir anghysondeb o ran defnyddio gwaelodlin i ddangos twf.  Mae tuedd gan rai siroedd i ddefnyddio  blynyddoedd penodol sy’n rhoi’r argraff o dwf, yn hytrach na chymharu dros gyfnod estynedig o amser e.e.  CNPT, sy’n nodi twf dros gyfnod o dair blynedd, ond lle mae’r ddarpariaeth yn ddi-dwf dros gyfnod o 12 mlynedd.

 

Ceir anghysondeb ac aneglurder o ran defnyddio canrannau a niferoedd absoliwt er mwyn darlunio’r gwir sefyllfa ystadegol.  Ceir Siroedd yn hepgor cynnwys tablau sy’n profi’r gwir dwf neu fel arall.  Nodwn fod dibyniaeth ar ganrannau yn gallu bod yn gamarweiniol, sy’n sicr o amrywio yn ddibynnol ar faint y cohort cyfan o blant, sydd mewn ambell sir yn cynyddu’n sylweddol.

 

Mae angen gofyn pa fesurau mae ALl wedi’u mabwysiadu i gynllunio’n rhagweithiol i alw yn y dyfodol, gan gynnwys rhoi ystyriaeth i’r galw ychwanegol sy’n rhwym o ymddangos pan mae ysgol newydd Gymraeg gyfleus yn agor? e.e Abertawe, Caerdydd, Wrecsam

 

Mae rhai siroedd megis Torfaen lle gwelwyd cynnydd a thwf aruthrol yn ystod y blynyddoedd diwethaf ond sydd nawr yn profi gostyngiad yn y niferoedd - sut mae cynnal y momentwm?

 

Tra’n cydnabod bod diffyg manylder yn anochel mewn rhai achosion, mae angen targedau mesuradwy i ehangu’r ddarpariaeth bresennol, gyda phwyslais ar sefydlu ysgolion newydd fel bod addysg Gymraeg ar gael yn fwy lleol.  Does dim digon o dystiolaeth bod ALl yn cynyddu mynediad at ddarpariaeth blynyddoedd cynnar na chynradd statudol o fewn cymuned y plentyn fel sydd wedi’i nodi yn y SACC.  Mae gormod o bwyslais yn amlach na pheidio ar ganoli darpariaeth ac ystyriaethau arbed arian.

Mae pryder bod yr agenda gwaredu lleoedd gweigion, sydd yn y gorffennol wedi bod o fantais i dyfu’r sector cyfrwng Cymraeg, yn medru bod yn felltith ar adegau, gan bod rhai ALl:

(i) peidio symud i agor ysgolion newydd oherwydd pryder y bydd hynny’n ‘creu lleoedd gweigion newydd’

(ii) gweithredu cynlluniau ad-drefnu sy’n peryglu natur, cymeriad a statws darpariaeth cyfrwng Cymraeg bresennol

 

Mae angen cynnal ymarferiad fydd yn rhoi trosolwg o’r rhaglen gyfan fel sail i ddatganiad polisi o safbwynt ei berthynas gydag amcanion y SACC.

 

Mae pryder fod diffyg capasiti o fewn llywodraeth ganol a lleol i dracio a monitro data ar lefel A.Ll/ ysgol/CM unigol.  Mae angen mwy o allu i ddadansoddi’r data ar lefel mwy micro ond hefyd ar lefel rhanbarthol a chenedlaethol.

 

Fforymau y Gymraeg mewn Addysg

Mae angen adolygu swyddogaeth y fforymau hyn er mwyn sicrhau gwir berchnogaeth lleol a chyfranogiad rhanddeiliaid.  Nodwn bod angen cadarnhau eu statws trwy eu gosod ar sail statudol a rhoi cyfrifoldebau craffu go iawn iddynt.

 

Mae’r broses feddwl o lunio’r cynllun drafft i’r ddogfen derfynol, cyflwyno’r ddogfen flynyddol ddiwygiedig i’r ddogfen a gymeradwywyd yn parhau’n aneglur.

Mae’n anodd casglu pa welliannau a gyflwynwyd gan y rhanddeiliaid, beth oedd y gwelliannau a dderbyniwyd gan y sir a pha welliannau gymeradwywyd gan y Llywodraeth.

Nodwn fod angen gwybod beth yw statws adborth blynyddol y Gweinidog i bob ALl.

 

Rhaid gofyn hefyd am fwy o arweiniad o safbwynt y dimensiwn gwleidyddol lleol i’r holl broses: beth yw rôl yr Aelod Etholedig dros Addysg; beth yw cyfraniad y pwyllgorau craffu ar addysg; a dylid cael diffiniad mwy eglur ynghylch statws y ddogfen mewn perthynas â’r cabinet neu’r bwrdd gweithredol a’r cyngor llawn. Bydd hyn oll yn gwella perchnogaeth y ddogfen gan y siroedd yn unigol.

 

Awgrymwn hefyd fod yna ddiffyg eglurder o safbwynt statws y CSGA o safbwynt perthynas yr ALl a’r consortia lleol sy’n parhau’n endidau heb statws cyfreithiol go iawn.

 

Mae angen mwy o eglurder a thryloywder drwyddi draw yn y broses hon.

 

Dilyniant cynradd – uwchradd. Ceir diffyg targedau i gau’r bwlch yn y llithriad ieithyddol.

Mae yma ddiffyg uchelgais cyffredinol.  Dylid cael cymhariaeth rhwng canran y disgyblion yn astudio’r Gymraeg fel iaith gyntaf yn CA3 a CA4 a nifer/canran siaradwyr Cymraeg y sir.  Dylid defnyddio hyn fel echel i’r Cynllun a sefydlu cydberthynas agos rhwng y ddau fel erfyn cynllunio ieithyddol.

 

Mae’r CSGAau yn rhy anfanwl yn y modd y maent yn delio ag addysg cyfrwng Cymraeg ôl 16.  Mae’n cydnabod twf, ond nid yw’n rhoi sylw i’r diffyg prosesau a allai sicrhau bod llawer llai o golled ieithyddol yn digwydd yn Sir Gaerfyrddin, Gwynedd a Môn, a hefyd Ceredigion.  Yn yr un modd mae diffyg trafodaeth yn yr adroddiad am ddilyniant iaith gyntaf yn y siroedd hyn, a rôl a phrosesau’r Llywodraeth yn hyn o beth.

 

Nid oes, hyd y gwelwn, drafodaeth o sut mae Estyn yn rhoi clod ieithyddol i ysgolion sy’n cynnig Cymraeg ail iaith i lu o ddisgyblion iaith gyntaf.  Mae angen i’r holl broses roi Estyn yn y canol, er mwyn sicrhau eu bod yn mynd i’r un cyfeiriad.

 

Yn wyneb ad-drefnu llywodraeth leol, mae angen diwygio’r targedau a dylid awgrymu sut gall y Strategaeth lunio prosesau cadarn er mwyn cyflawni hynny yn erbyn cefnlen o newid trawsffurfiol tebygol mewn llywodraeth leol.

Os ydych o'r farn bod problemau yn y maes hwn, sut y gellir eu datrys?

Mae awgrymiadau wedi eu hymgorffori yn yr ateb blaenorol.

 


 

Cwestiwn 4

Yn eich barn chi, a yw Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg yn amlygu rhyngweithio effeithiol rhwng strategaeth addysg Gymraeg Llywodraeth Cymru a deddfwriaeth a pholisïau perthnasol eraill*?
(*er enghraifft, polisi cludiant ysgolion; rhaglen Ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain; y datganiad polisi - Iaith fyw: iaith byw; Dechrau’n Deg; polisi cynllunio)?

Mae angen agwedd mwy cyfannol sy’n cyd-gysylltu’r holl bolisiau sy’n effeithio ar Addysg Gymraeg, gan gynnwys: y Blynyddoedd Cynnar, Dechrau’n Deg, Derbyniadau i Ysgolion, Cludiant ayb.

 

Awgrymwn bod angen i Lywodraeth Cymru gynnal adolygiad cynhwysfawr o’r holl bolisïau a strategaethau sy’n effeithio ar addysg Gymraeg.

 

Mae angen datganiadau polisi clir mewn perthynas â’r holl feysydd allweddol hyn yng nghorff y CSGAau.

 

Cludiant: Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008

 

I gael cydraddoldeb ag addysg Saesneg, mae addysg Gymraeg yn dibynnu ar gludiant      3 – 18 oed

 

Mae’r SACC a’r Mesur ar wahanol begynnau ar hyn o bryd.

 

Ar y cyfan ceir diffyg cyfeiriad at gludiant yn y CSGAau. Nid yw’r Cynlluniau’n nodi sut mae’r Awdurdodau Lleol am ‘hyrwyddo addysg Gymraeg’ trwy gludiant, yn ôl y gofynion Adran 10 y Mesur Teithio.

 

Mae ymchwil RhAG yn dangos fod sicrwydd trafnidiaeth cyn bwysiced os nad yn bwysicach na chael cludiant am ddim.  Ar y llaw arall, mae ymchwil RhAG yn awgrymu y gallai’r sector Cymraeg 16+ chwalu oni bai bod cludiant ar gael yn ôl amodau’r sector -16.

 

Mewn rhai siroedd mae cludiant 16+ ar gael am ddim ar hyn o bryd e.e. Abertawe a Bro Morgannwg, ond mae’r mwyafrif o siroedd wrthi neu’n bwriadu adolygu’r sefyllfa hon.

 

Ar hyn o bryd caiff llawer o rieni addysg Gymraeg eu cosbi’n ariannol oherwydd eu bod yn byw’n bell o ysgol Gymraeg.  Yn y dyddiau o gynni economiadd sydd ohoni a thoriadau yn y gyllideb gyhoeddus, mae’n fwyfwy pwysig bod disgyblion Cymraeg yn cael mynychu ysgolion Cymraeg heb gosb ariannol. 

 

Mae siroedd eraill yn codi tâl am gludiant i addysg 16+.  Mae’r sefyllfa ym Mynwy’n anghymesur â gweddill Cymru.  Ar hyn o bryd mae’r rhan fwyaf o rieni’n talu £380 y flwyddyn a mae’r ysgol uwchradd yn nodi bod hyn wedi arwain at ostyngiad yn y nifer o blant sy’n trosglwyddo i flwyddyn 12.  Mae hyn dros 4 gwaith yn fwy na unrhyw Awdurdod Lleol arall yng Nghymru.  Mae sicrwydd trafnidiaeth hefyd yn broblem yn y sir.  Bu nifer o rieni a disgyblion/myfyrwyr yn aros am rai wythnosau i mewn i’r tymor newydd i gael cadarnhad a fyddent yn derbyn cludiant ai peidio.  Mae’r un sefyllfa’n bodoli yng Nghasnewydd ble mae rhieni, bellach yn gorfod talu £347.50 y flwyddyn.

 

Mae angen i awdurdodau lleol weithredu’r Mesur Teithio gan Ddysgwyr gan sicrhau bod cludiant yn hyrwyddo addysg Gymraeg.

 

Mae angen eglurder gan Lywodraeth Cymru sut y dylai awdurdodau lleol weithredu eu dyletswyddau i ddarparu cludiant mewn modd sy’n cyflawni hynny. Beth yw mecanwaith ymarferol hynny?  Mae angen canllawiau gweithredol clir ynghylch hyn.

 

Mae angen eglurder hefyd o ran camau y bydd llywodraeth Cymru yn eu cymryd os na bydd ALL yn gweithredu’n unol â hyn.  Gan fod pellter ysgolion Cymraeg o gartrefi disgyblion yn fwy na phellter ysgolion Saesneg o gartrefi ar gyfartaledd, byddai disgwyl bod dyletswydd ar AALlau i ddarparu cludiant i wneud iawn am y gwahaniaeth hwn. 

 

Rhaid sicrhau hygyrchedd ac argaeledd gwybodaeth glir i rieni am bolisi’r Awdurdod Lleol mewn perthynas â chludiant i addysg Gymraeg, yn arbennig felly os yw hynny ar gyfer darpariaeth y tu allan i’r Sir.e.e gwelwyd newid polisi ym Mhowys yn dilyn llwyddiannau apeliadau cludiant gan rieni i sicrhau cludiant y tu allan i’r sir ac i ysgol arall y tu allan i’r dalgych naturiol yr ysgol gynradd.  Ni chafodd y wybodaeth ei rhoi’n glir i rieni am y newid hwn, fel y gallai rhieni’r dyfodol fod yn ymwybodol am y newid yn y polisi.

 

Mae RhAG wedi galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod cludiant am ddim i addysg cyfrwng Cymraeg ôl 16 ar gael i ddisgyblion ledled Cymru.  Mae nifer o Awdurdodau Lleol wedi dechrau codi tâl am gludiant eleni, neu wedi codi’r costau yn sylweddol i’r graddau y bydd yn anodd neu’n ambosibl i lawer o ddisgyblion dderbyn addysg Gymraeg ôl 16.

 

Mae RhAG o’r farn bod codi tâl am gludiant i Addysg Cyfrwng Cymraeg yn:

 

Tanseilio amcanion y Strategaeth Addysg Gymraeg ac yn debygol o effeithio ar dargedau cynnydd cenedlaethol


Milwrio yn erbyn Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 (Cymal 10: hybu mynediad i addysg Cyfrwng Cymraeg gan gynnwys oedran 14-19)


Tanseilio Cynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg y siroedd, sy’n gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol i hybu addysg Gymraeg.  Mae’r Strategaethau yn sôn am hybu addysg Gymraeg yn y cyfnod 14-19, ond yn gyffredinol, yn osgoi cyfeirio at, neu yn anwybyddu, bolisïau cludiant sy’n tanselio’r targedau.

 

Tanseilio cymal 6 Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (2015) sy’n gosod nod o Gymru ‘â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu’.

Tanseilio effeithlonrwydd a chost-effeithiolrwydd dosbarthiadau 6 mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg

Mae tystiolaeth bod costau teithio uchel yn dechrau effeithio ar niferoedd.  Mae hyn yn tanseilio buddsoddiadau’r siroedd a’r llywodraeth mewn addysg gymraeg.

Gweithredu ar sail tystiolaeth: gwnaethpwyd arolwg yn Abertawe ar effaith costau teithio ar addysg Gymraeg.  Roedd yn glir byddai codi cost yn cael effaith ar y sector – penderfynodd Cyngor Abertawe peidio a codi tâl am drafnidiaeth i ysgolion Cymraeg.

Cael effaith annheg ar deuluoedd gydag incwm isel, drwy gyfyngu ar eu dewisiadau

Mae RhAG wedi cynnal tair astudiaeth achos, yn Abertawe, Castell-nedd Port Talbot a Phen-y-bont ar Ogwr ac ymddengys nad oes unrhyw waith wedi ei wneud i ymchwilio i’r effaith benodol ar deuluoedd incwm isel.

Mae teuluoedd a hoffai i’w plant gael addysg cyfrwng Cymraeg yn cael eu gorfodi i ddewis opsiynau cyfrwng Saesneg ar sail ariannol

Effeithio’r sector cyfrwng Cymraeg, gan nad oes darpariaeth leol ar gael ymhob man, yn enwedig yn y de (ble mae ysgolion cyfrwng Cymraeg yn fwy tebygol o fod dros 5 milltir o’r cartref na ysgolion cyfrwng Saesneg).

Mewn ambell i Awdurdod Lleol (e.e., Sir Fynwy), mae effaith negyddol ar addysg cyfrwng Cymraeg wedi ei nodi yn yr ymgynghoriad, ond heb gael ei ystyried yn y penderfyniad terfynol.

Mae diffygion hefyd o ran proses.  Yng Nghasnewydd, doedd dim ymgynghoriad swyddogol mewn perthynas â chynyddu’r ffioedd.

 

Mae’r darlun cenedlaethol yn anghyson ac anwastad a’r ddarpariaeth yn seilieidig ar loteri cod post.  Mae nifer o siroedd eisoes wedi adolygu eu darpariaeth cludiant 16+, rhai wedi cynyddu’r ffioedd ac eraill yn oedi cyn gwneud penderfyniad terfynol.  Mae nifer pellach yn y broses o adolygu’r sefyllfa ac eraill yn debygol o wneud hynny’n fuan, dan orfodaeth i ganfod arbedion sylweddol yn eu cyllidebau.

 

Lwfans Cynhaliaeth Addysg. Un awgrym sydd wedi’i wyntyllu yw y dylid defnyddio’r LCA tuag at dalu costau teithio, ond mae RhAG yn pryderu bod llawer o deuluoedd ar incwm gweddol isel, ond sydd dros y trothwy swyddogol sef, £20,187k – un plentyn, £23,077K 2+ plentyn, yn gwynebu cynnydd anghymesur mewn costau.

 

Gweithio’n rhan amser. Mae RhAG yn ymwybodol bod nifer cynyddol o blant yn y chweched dosbarth yn gorfod troi at waith rhan amser i dalu costau teithio.  Nid yw pwysau o’r fath yn dderbyniol, yn arbennig o ystyried bod disgyblion y sector cyfrwng Cymraeg, ar gyfartaledd, yn wynebu teithiau hirach, a bod hynny’n cwtogi eisoes ar amser hamdden i gwblhau gwaith cwrs ayb. Mae hyn yn amlygu goblygiadau sylfaenol o safbwynt lles y disgyblion.

 

Pen-y-bont ar Ogwr

Bydd codi tâl am gludo disgyblion 16+ i Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd yn debygol o ddod ag addysg 16+ hyfyw yno i ben.  Bydd codi tâl am gludiant yn effeithio’n anghymesur ac afresymol ar rai sy’n derbyn addysg Gymraeg ôl 16 yn y Sir.  Bydd hyn yn effeithio ar 8 o bob 10 o ddisgyblion Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd. Mae codi tâl am gludiant ysgol yn mynd i gosbi’r llai cefnog yn fwy na neb, a pheri na fydd disgyblion o gefndiroedd tlotach yn gallu parhau ag addysg Gymraeg.”

(Cludiant ac Addysg Gymraeg 16+: Arolwg o effaith codi tâl am gludiant i addysg Gymraeg 16 ym Mhen-y-bont ar Ogwr, 2014) http://www.rhag.net/dogfennau/Addysg%2016%20cludiant%20PyB_Cymraeg.pdf

 

Castell Nedd Port Talbot

“Bydd codi tâl am gludiant yn effeithio’n anghymesur ar rai sy’n derbyn addysg Gymraeg ôl 16 yn y Sir.  Honiad y Sir yw na fydd codi tâl o £270 am fws ysgol ond yn effeithio ar 1 o bob 10 o ddisgyblion y sir.  Bydd hyn yn effeithio ar 9 o bob 10 o ddisgyblion Ysgol Gyfun Ystalyfera.... Yn wahanol i Goleg Castell-nedd, nid oes gwasanaeth bysiau cyhoeddus hwylus i Ystalyfera, felly mae’r mwyafrif helaeth o’r disgyblion yn dibynnu ar fysiau ysgol a ddarperir gan y Sir..... Bydd codi £270 y flwyddyn am gludo disgyblion 16+ plant i Ysgol Gyfun Ystalyfera’n debygol o ddod ag addysg 16+ hyfyw yno i ben.”

 

(Cludiant ac Addysg Gymraeg 16+: Arolwg o effaith codi tâl am gludiant i addysg Gymraeg 16+ yng Nghastell-nedd Port Talbot, 2013) http://www.rhag.net/dogfennau/Addysg%2016%20cludiant%20CNPT%20c.pdf

 

Yn y De Ddwyrain (Mynwy, Torfaen, Blaenau Gwent, Casnewydd) mae tystoliaeth yn dangos bod dros 85% o blant yn y sector cyfrwng Cymraeg yn ddibynnol ar drafnidiaeth, o gymharu a 20% yn y sector cyfrwng Saesneg.  Mae Sir Fynwy wedi codi tal am gludiant ol-16 o £255 I £380 eleni, a Chasnewydd wedi dechrau codi tal o £347.  Mae Ysgol Gwynllyw wedi nodi eu bod eisioes yn dechrau gweld gostyngiad yn y niferoedd sy’n trosglwyddo i’r chweched.  Mewn arolwg o rhieni (i’w gyhoeddi, Haf 2015),

nododd 66% o rieni eu bod yn bendant am i'w plant fynychu'r 6ed: roedd hyn yn gostwng i 45% os oedd y siroedd yn codi tal am fws.

 

Bydd goblygiadau pendant ar addysg Gymraeg yn sgil dyfarniad Adolygiad Barnwol diweddar mewn perthynas â darparu cludiant i Ysgolion Ffydd yn Abertawe.  Mae angen i Lywodraeth Cymru roi eglurder ar hyn.

 

Fel arfer mae polisiau cludiant yn cyfeirio at ‘yr ysgol addas agosaf’. Mewn nifer o siroedd gall hynny olygu darpariaeth nad yw’n ysgol sy’n medru cynnig holl ystod y ddarpariaeth trwy gyfrwng y Gymraeg.  Mewn nifer o achosion mae’r ALl o’r farn bod y ddarpariaeth yn ddigonol ac yn dderbyniol ac mae RhAG wedi gorfod ymladd sawl apêl i brofi nad yw hynny’n dderbyniol.

Mae angen mynd i’r afael â hyn yn genedlaethol; un ffordd amlwg o wneud hynny fyddai adolygu ar fyrder y ddogfen interim ‘Diffinio ysgolion yn ôl y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg’.

Angen arweiniad pendant gan y Llywodraeth er mwyn cysoni’r polisi a chyfyngu ar allu ALl i ‘ddehongli’r sefyllfa.

O safbwynt categorïau ysgolion uwchradd, awgrymwn bod angen creu categori newydd a fyddai’n cyfuno’r categorïau 1 a 2A presennol ar wahân i’r categoriau 2B, C a Ch.

 

Mewn cyfnod o gynni ariannol, mae’n ofid bod ALl yn gweld ysgolion ‘dwyieithog’ fel model rhatach o ddarparu addysg Gymraeg.  Mae’n rhaid i’r Llywodraeth roi arweiniad ar hyn yn unol â pholisi’r SACC.

 

Addysg Dysgu Ychwanegol: deddfwriaeth newydd sydd ar y gweill

Mae cynllunio strategol ar gyfer ADY bellach yn ofyniad statudol yn y CSGAau. Credwn bod cynllunio darpariaeth ADY yn fater o gyfleoedd cyfartal sylfaenol.

 

Polisi Llywodraeth Cymru yw symud at gynnydd nifer y bobl sy’n siarad y Gymraeg ac ehangu’r cyfleoedd i ddefnyddio’r iaith, yn arbennig ym mheuoedd y teulu a’r gymuned.  Rhaid osgoi sefyllfa lble caiff teuluoedd sydd â phlant gydag anhawsterau dysgu ychwanegol eu hamddifadu o’r cyfle i brofi a chwarae rhan llawn yn y weledigaeth honno, ac yn hytrach greu byd sy’n amherthnasol neu’n gaeëdig iddynt.  Ar aelwydydd ble siaredir y Gymraeg, mae’n anochel hefyd y byddai trosglwyddo un plentyn gydag anableddau neu anhawsterau dysgu i addysg arbenigol cyfrwng Saesneg yn arwain at newid iaith yr holl deulu o'r Gymraeg i'r Saesneg.  Mae goblygiadau’r diffyg dewis yn ddifrifol a phellgyrhaeddol.

 

Dylid cadarnhau bod iaith yn angen (need) fel egwyddor sylfaenol ar wyneb y Bil arfaethedig, a thrwy hynny sefydlu’r hawl i ddewis a derbyn darpariaeth a/neu wasanaeth trwy gyfrwng y Gymraeg.  Dylid rhaeadru ystyriaethau’n ymwneud a’r iaith Gymraeg a darpariaeth cyfrwng Cymraeg trwy pob elfen o’r ddeddfwriaeth ac unrhyw Reoliadau neu God Ymarfer newydd arfaethedig.  Ni ddylid gwahaniaethu ar sail cefndir ieithyddol yr unigolyn, boed ef/hi yn siaradwr Cymraeg, yn ddysgwyr neu’n ddi-Gymraeg.

 

Mewn sefyllfaoedd lle mae angen neu anhawster addysgol yn ystyriaeth, yna mae’r dewis hwnnw’n llawer mwy heriol a chymleth.  Dylai unrhyw ddiwygiadau i’r ddeddfwriaeth yn y maes fraeniaru’r tir er mwyn lleddfu a hwyluso’r penderfyniad cymaint â phosib.  Dylai hefyd osod yr amodau er mwyn osgoi sefyllfa ble mae rhaid i riant ddewis rhwng y ddarpariaeth arbenigol a chyfrwng iaith y ddarpariaeth honno, rhywbeth sy’n digwydd yn llawer rhy aml ar hyn o bryd.

 

Ein pryder ar hyn o bryd yw nad yw hynny’n cael ei wireddu ar lawr gwlad.  Mae’r ddarpariaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol trwy gyfrwng y Gymraeg yn parhau’n ddarniog a diffygiol mewn sawl rhan o Gymru, ac mewn rhai meysydd yn fwy nag eraill.  Yn wir mewn rhai ardaloedd does dim darpariaeth ar gael o gwbl e.e. dim dosbarthiadau arsylwi neu gefnogaeth cyfrwng Cymraeg.  Mae anghysondeb yn y modd caiff teuluoedd eu trin; y ddarpariaeth sydd ar gael; ynghyd â lefel yr arbenigedd a’r gefnogaeth sydd ar gael.  Tu hwnt i Wynedd a Mon, mae’n ddarpariaeth sy’n parhau i fod ar sail loteri côd post.

 

Ceir o hyd enghreifftiau o arbenigwyr yn cynghori rhieni i symud eu plant o’r sector cyfrwng Cymraeg i’r sector Saesneg gan ddatgan y byddai’r plentyn ‘ar ei ennill’ o wneud hynny.  Yn wir mae tystiolaeth yn cefnogi’r ddadl bod dwy iaith yn cyfoethogi profiad plentyn hyd yn oed os oes anhwylder iaith.  Mae agweddau negyddol o’r fath yn ddull o beidio darparu gwasanaeth Cymraeg, ac mae’n gwrthod hawl disgybl o gael addysg yn ei ddewis iaith.  Os yw’r plentyn neu’r rhiant yn fregus yna mae mwy o ddadl am y lefel uchaf o gefnogaeth ym marn RhAG.

 

Profiad RhAG yw mai rhieni fel arfer sy’n parhau i orfod brwydro er mwyn sicrhau darpariaeth, a thrwy eu dycnwch a’u hymdrechion hwy y gellir priodoli unrhyw lwyddiant.  Yn yr un modd disgwylir i ysgolion mewn sawl ardal orfod ymdopi ar eu pennau eu hunain wrth geisio cefnogi’r disgyblion hyn.

 

Cred RhAG bod angen gwrthdroi’r feddylfryd a’r arferiad adweithiol gan Awdurdodau Lleol ac i roi’r ernes arnynt i berchnogi rôl mwy rhagweithol, yn hytrach na’r sefyllfa arferol ble mae rhieni yn gorfod gofyn neu wthio’r broses. Rhaid chwyldroi’r modd y mae Awdurdodau Lleol yn cyflawni eu dyletswyddau tuag at blant gydag ADY.  Rhaid i unrhyw drefn newydd gyflymu’r holl broses o’r eiliad y mae rhieni a/neu’r ysgol yn datgan pryder ac yna gwmpasu’r holl broses o gynllunio’r gefnogaeth a’r cymorth angenrheidiol.  Mae bywyd addysgol plentyn yn fyr ac un cyfle a geir i wneud gwahaniaeth.

 

Mae cymal yn y Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg yn nodi fod pwerau eisioes ym meddiant Llywodraeth Cymru i weithredu ar hyn – ond unwaith eto mae angen cael canllawiau a thargedau pendant ar sut caiff y pwerau hyn eu defnyddio. Credwn fod angen i unrhyw Gôd Ymarfer newydd fanylu ar sut y cyflawnir hynny.

 

Mae RhAG o’r farn bod angen gwneud awdit cyffredinol o’r ddarpariaeth fesul sir, a sicrhau bod cydweithio rhyng-sirol yn cael ei hwyluso i roi tegwch i ddisgyblion sydd eisoes yn dioddef o anableddau neu anawsterau dysgu.  Gallai’r cydweithio rhyng-sirol hwn fod ar ffurf canolfannau rhagoriaeth rhanbarthol a fyddai’n cefnogi canolfannau lloeren.

 

Mae’n rhaid sicrhau bod darpariaeth arbenigol digonol ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg a hynny ar draws y disgyblaethau, e.e. therapyddion iaith a lleferydd, seiciatreg, cymorth dyslecsia ac ati, ar sail statudol.  Mae bylchau sylweddol yn y ddarpariaeth ar hyn o bryd yn sgil diffyg ymarferwyr ac arbenigwyr proffesiynol cymwys sy’n medru gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg.  Credwn bod modd i’r ddeddfwriaeth sicrhau hynny a’r manylder angenrheidiol er mwyn cyflawni hynny ei osod yn y Cod Ymarfer.  Mae angen hyfforddiant pwrpasol i gynyddu’r gweithlu sy’n gallu cynnig gwasanaeth arbenigol i ddisgyblion ag anghenion ychwanegol.

 

Polisi cenedlaethol Llywodraeth Cymru yw cynyddu’r cyfleoedd i gael mynediad at addysg Gymraeg trwy ehangu’r ddarpariaeth.  Wrth i addysg Gymraeg ehangu mae’n anochel y bydd achosion (yn arbennig iaith a lleferydd) yn dod yn fwyfwy cyffredin. Hefyd wrth inni ddysgu mwy am gyflyrau megis Awstistiaeth, bydd mwy o blant a phobl ifanc yn cael diagnosis.  Mae’n sicr ddigon mai cynyddu fydd y niferoedd o deuluoedd a disgyblion fydd angen cymorth.  O gofio bod y mwyafrif o ddisgyblion yn y sector cyfrwng Cymraeg yn hannu o gefndiroedd di-Gymraeg, ac fod twf addysg Gymraeg yn fwyafrifol mewn ardaloedd mwy Seisnigedig, mae'n bryder sylfaenol, yn seiliedig ar y profiadau niferus sydd wedi dod i sylw RhAG, na fydd rhieni di-Gymraeg yn medru cael yr un cyfleoedd a thegwch i'w plant gael mynediad at Addysg Gymraeg.  Mae hwn yn fater allweddol y dylid rhoi sylw dyledus iddo mewn unrhyw God Ymarfer newydd.

 

Mae’n ffaith anorfod, y bydd iaith yn her gydol oes i fwyafrif y plant a’r bobl ifanc sydd ag unrhyw fath o anhawster neu her addysgol, ond ni ddylai hynny olygu na ddylent gael y cyfle i ddysgu, profi a mwynhau’r iaith fel unrhyw un arall.  Mae’n anochel hefyd na fydd pob plentyn yn datblygu ar yr un cyflymder ac y bydd rhai’n cymryd llawer mwy o amser i ddatblygu sgiliau ieithyddol, ond nid yw hynny’n reswm dros beidio a chyflwyno’r iaith iddynt.  Yn hytrach cred RhAG fod hynny’n rheswm dros roi’r gefnogaeth uchaf posib i blant, pobl ifanc a’u teuluoedd.

 

Rhaid gofyn, pa neges rydym am ei roi i rieni?  Ydy sefyllfa lle caiff plant eu hatal rhag dysgu iaith oherwydd anabledd neu anhawster dysgu yn dderbyniol? Ydy hynny’n sicrhau cynhwysiant gwirioneddol?  Mae diwygio’r deddfwriaeth a chyflwyno Cod Ymarfer newydd arfaethedig yn cynnig cyfle amhrisiadwy i unioni’r anghydraddoldeb presennol a rhoi cyfleoedd cyfartal i bob plentyn yng Nghymru ddysgu’r iaith Gymraeg.

 

Dechrau’n Deg

 

Mae RhAG wedi amlygu fod un o bolisïau blaenllaw Llywodraeth Cymru, er gwaethaf ewyllys da y sefydliad, yn milwrio’n erbyn ehangu Addysg Gymraeg.


Yn dilyn gwneud cais dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaethar ar gyfer dwy flynedd yn olynol, dangosodd ymatebion yr Awdurdodau Lleol nad yw’r ddarpariaeth yn dod yn agos at y canrannau presennol sy’n derbyn addysg Gymraeg.  Gwelir y patrwm hwn gan oddeutu hanner siroedd Cymru.

Amlygodd yr ymarferiad nifer o wendidau o safbwynt gweithredu rhaglen Dechrau’n Deg ar lawr gwlad ac am statws y Gymraeg o fewn y polisi hwn. Awgrymwn mai ystyriaeth ymylol yw’r Gymraeg yn hytrach na bod yn ystyriaeth ganolog o safbwynt gweledigaeth y rhaglen.

 

Amlygwyd nad oes unrhyw fonitro manwl yn digwydd, a dim rheolaeth ar sut mae awdurdodau lleol yn gweithredu'r drefn.  Yn wir, lleiafrif bychan o siroedd sy’n gwneud yn dda - mae’r gweddill yn tangyflawni’n sylweddol.  Yn amlach na pheidio, lleoedd Dechrau’n Deg fydd pwynt mynediad cyntaf nifer cynyddol o deuluoedd i ddarpariaeth blynyddoedd cynnar.  Yn gyffredinol dengys y data fod diffygion sylweddol wrth sicrhau cyfleoedd cyfartal i deuluoedd difreintiedig gael mynediad at ddarpariaeth gofal plant Dechrau’n Deg trwy gyfrwng y Gymraeg.

 

Mae rhaglen Dechrau’n Deg wedi ei ehangu ledled Cymru dros y blynyddoedd diwethaf a hynny diolch i fuddsoddiad ariannol sylweddol gan Lywodraeth Cymru. Rhaid gofyn beth oedd cyfanswm y buddsoddiad o ran darpariaeth Gymraeg?

 

Rhaid gofyn pa fath o sylfaen mae’r rhaglen hon yn ei gosod er mwyn cyflawni targedau’r Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg?  Rydym yn pryderu nad oes unrhyw gydberthynas rhwng y CSGAau a’r rhaglen ac mae angen unioni hynny ar fyrder.

 

Dyma faes allweddol sy’n gorgyffwrdd â chylch gorchwyl sawl Gweinidog, gan gynnwys Trechu Tlodi, Gofal Plant ac Addysg.  O ganlyniad mae angen arweiniad a chyfarwyddyd polisi cenedlaethol o’r canol mewn perthynas â statws y Gymraeg o fewn y rhaglen.  Fel y Gweinidog sydd bellach â chyfrifoldeb am yr iaith dylai Carwyn Jones gadarnhau ymrwymiad y Llywodraeth a sicrhau fod y Gweinidogion perthnasol yn gweithredu’n unol â hynny.  Mae angen i'r llywodraeth sefydlu arolygiaeth ar gyfer y drefn, a rhoi cyllid yn unig i awdurdodau sy'n rhoi cyfartaledd i'r ddwy iaith yn ôl disgwyliadau lleol am dwf addysg Gymraeg.

 

Casgliadau eraill:

• Trosglwyddo i addysg Gymraeg: canrannau yn isel iawn ac yn amlach na pheidio nodwyd nad oedd y data ym meddiant yr Awdurdod Lleol.
Ymddengys nad yw’n ofynnol i’r gwasanaeth fonitro pa ysgolion y mae’r plant yn trosglwyddo iddynt, ac o ganlyniad, nid yw’r wybodaeth hwn yn meddiant yr ALl.
• Niferoedd staff cyfrwng Cymraeg: Ar gyfartaledd mae llai na 1/3 o staff y siroedd yn medru’r Gymraeg (wahân i Gwynedd, Môn a Cheredigion).
• Mae cwestiynau i’w gofyn o safbwynt yr arferiad presennol o gasglu data am sgiliau ieithyddol staff a natur ieithyddol y darpariaethau yn yr un modd a fod disgwyl rheolaeth lem o safbwynt iechyd a diogelwch, gwiriadau CRB ayb
“Ni chynhaliwyd unrhyw asesiad ac ni chasglwyd unrhyw wybodaeth oedd ymateb sawl sir.”  Yn gyffredinol ceir amwysedd a diffyg cysondeb drwyddi draw yn y cyswllt hwn.

 

 

 

Polisi Cynllunio

Mae datblygu trefol yn rhoi cyfle i gynyddu addysg Gymraeg.  Drwyddi draw nid yw’r CSGAau yn rhoi sylw digonol i’r maes pwysig hwn a’r effaith tebygol ar y galw am addysg Gymraeg.  Dylai bod y Cynlluniau hyn yn cynnwys datganiad polisi parthed datblygiadau tai newydd, er mwyn sicrhau bod canran deg o’r ysgolion ddaw yn sgil adeiladu ystadau tai newydd yn rhai Cymraeg.

 

Pan gaiff addysg ei hystyried yng nghyd-destun cynllunio ystadau tai newydd, mae angen i awdurdodau lleol roi ystyriaethau ieithyddol yn ganolog yn y cynlluniau, trwy sicrhau bod sefydlu ysgolion Cymraeg yn rhan o’r cynlluniau hyn. Pan fydd y sector preifat yn ariannu datblygiadau o’r fath, mae angen manteisio ar hyn o safbwynt addysg Gymraeg.

 

Mae angen i Lywodraeth y Cynulliad lunio canllawiau ar gyfer prosesau a fydd yn pennu natur ieithyddol ysgolion newydd sy’n rhan o gynlluniau tai newydd.  Yn yr un modd, lle nad yw cynlluniau tai newydd yn ddigon mawr i gael ysgolion newydd yn rhan o’r datblygiad, mae angen canllawiau sy’n caniatáu i rieni sy’n ymgartrefu yn yr ardal ddewis addysg Gymraeg yn hwylus.

 

Mae angen hwyluso cyfathrebu rhwng adrannau tai a chynllunio llywodraeth leol a’r adrannau addysg ac adrannau cynllunio ac addysg y Llywodraeth.

 

Ceir enghreifftiau o siroedd sydd wedi colli cyfle: RhCT, Pen-y-bont ar Ogwr

 

Ceir enghreifftiau diweddar lle mae addysg Gymraeg wedi elwa ar rai ysgolion trwy "ennill cynllunio" sef ysgol newydd Llantrisant a Phenallta (Ystrad Mynach/Gelligaer).  Mae hyn yn gynsail ar gyfer ystyried yn helaethach ar lefel genedlaethol.

 

Ceir enghreifftiau o siroedd ble mae datblygiadau tai sylweddol ar y gorwel a chyfle pendant i sicrhau ysgolion Cymraeg newydd: Caerdydd, Casnewydd

 

Mae prosesau cynllunio fel y maent ar hyn o bryd yn gallu bod yn llawer rhy araf gan lesteirio’r twf.  Mae’n cymryd amser maith i awdurdodau lleol ddod i hyd i safle, cael caniatâd cynllunio, mynd drwy’r prosesau statudol angenrheidol, adeiladu neu wneud gwaith adnewyddu.

 

Mae angen i Lywodraeth nesaf Cynulliad Cymru sefydlu targedau pendant ar gyfer twf ysgolion Cymraeg ledled Cymru ac i hynny gydnabod fod angen amrywiol ffyrdd i gyflawni hynny yn unol a sefyllfa unigol pob sir.

 

Mae enghreifftiau o anawsterau diweddar yn cynnwys y rhain:

 

Castell-nedd Port Talbot:  Nid oes ysgol Gymraeg yn ardal Sgiwen, ac roedd gan y Sir gynllun i gael ysgol Gymraeg yn rhan o ystad newydd Llandarcy.  Mae amheuaeth bellach a fydd y sir yn cadw at hyn.

 

Casnewydd: Does dim adeiladau wrth gefn i’w trosglwyddo i’r sector Cymraeg – rhaid adeiladu o’r newydd

 

Caerdydd: Roedd y sir wedi ceisio cyfuno lleihau llefydd gwag gyda chynyddu llefydd i addysg Gymraeg wrth ad-drefnu.  Roedd penderfyniadau gan Weinidogion Llywodraeth Cymru yn atal hynny.

 

Mewn ardaloedd traddodiadol Gymraeg, mae cynlluniau i gau ysgolion gwledig yn gallu peryglu darpariaeth addysg Gymraeg.  Lle byddai holl blant ardal leol yn mynd i’r ysgol Gymraeg leol, gall canoli ysgolion olygu bod addysg Gymraeg o dan anfantais yn y drefn newydd.  Mae angen i natur ieithyddol yr ysgolion bach Cymraeg hyn gael ei diogelu yn yr ysgolion newydd a sefydlir.

 

Rhaglen Ysgolion 21G

Awgrymwn fod angen awdit o’r holl brosiectau ac amserlenni’r prosiectau hynny er mwyn gweld sut mae’r rhaglen yn cyfrannu at nodau ac amcanion y SACC.  Mae diffyg prosiectau sydd wedi cael sel bendith ond sy’n parhau heb eu cyflawni yn peri pryder.  Mae angen adolygiad cynhwysfawr o’r rhaglen o ogwydd Addysg Cymraeg.

 

Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011

Mynegwyd siom gan RhAG pan oedd y gyfraith yn cael ei llunio ynghylch diffyg unrhyw gyfeiriad at addysg Gymraeg o fewn y deddf.  O ganlyniad i hynny mae union hawliau rhieni o safbwynt addysg Gymraeg o fewn darpariaethau’r Mesur yn parhau’n aneglur ac annelwig.  Sut bydd cyfundrefn newydd y Safonau yn ymateb i hyn trwy osod dyletswyddau newydd ar A.Ll a sefydliadau addysg bellach ac uwch?  Mae angen gwell eglurder ar hyn a’r modd y mae’r Mesur yn cyd-fynd â chyfundrefn y CSGAau.

Os ydych o'r farn bod problemau yn y maes hwn, sut y gellir eu datrys?

Awgrymiadau wedi eu hymgorffori yn yr ateb blaenorol.

Cwestiwn 5

Yn eich barn chi, a yw canlyniadau’r Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg yn sicrhau canlyniadau teg i bob disgybl, gan gynnwys er enghraifft, disgyblion cynradd / uwchradd; plant o gartrefi incwm isel?

Mae angen i’r CSGAau fod yn gerbyd i unioni’r rhwystrau presennol sy’n atal cyfleoedd cyfartal i bob disgybl sydd am gael mynediad at ddarpariaeth gofal ac addysg cyfrwng Cymraeg yn y cyfnod cyn-ysgol, oedran statudol neu 16+.

 

Mae addysg Gymraeg ar hyn o bryd yn parhau i fod yn seiliedig ar loteri cod post boed hynny o safbwynt daearyddiaeth, ffactorau cymdeithasol-economaidd neu anghenion dysgu ychwanegol.

 

Nodwn bod gweithredu’r CSGAau a chyflawni’r amcanion yn erbyn cefnlen o dorriadau llym yn y sector cyhoeddus yn golygu mai gwneud arbedion sy’n gyrru holl agenda’r ALl.  Felly mae goresgyn hynny a cheisio cynnig cyfleoedd cyfartal i bob disgybl yn fwyfwy heriol.

 

Mae hyn yn rhoi mwy o bwysigrwydd ar gael gweledigaeth gref ac ewyllys pendant i weithredu amcanion y CSGA.

 

Os ydych o’r farn nad yw canlyniadau’r Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg yn sicrhau canlyniadau teg, sut y gellir datrys hyn?

Awgrymiadau wedi eu hymgorffori yn yr atebion blaenorol.

Cwestiwn 6

Os byddai'n rhaid ichi wneud un argymhelliad i Lywodraeth Cymru o'r holl bwyntiau rydych wedi'u nodi, beth fyddai'r argymhelliad hwnnw?

Mae angen cryfhau’r broses o fesur y galw am Addysg Gymraeg mewn siroedd llai dwys eu Cymraeg.  Mae angen i bob sir fabwysiadu’r un dull o fesur, a rhaid dilyn hyn gan reidrwydd i weithredu yn ôl canfyddiadau sy’n dangos bod y galw’n uwch na’r ddarpariaeth bresennol.  Mae’r galw’n gyson yn uwch na’r ddarpariaeth, ac felly mae angen gosod canllawiau pendant parthed sut mae ateb y galw.  Mae angen i hyn ddigwydd yn gyflym, gan beri bod hwb sylweddol yn digwydd i niferoedd a chanrannau disgyblion sy’n mynychu ysgolion cynradd Cymraeg.

Cwestiwn 7

A oes gennych unrhyw sylwadau neu faterion eraill yr hoffech eu codi na soniwyd amdanynt yn y cwestiynau penodol?

Staffio a hyfforddi’r gweithlu

 

Mae angen buddsoddiad sylweddol er mwyn sicrhau niferoedd digonol o ymarferwyr cymwys ar hyd holl rychwant y sector i ehangu’r maes yn llawn.

 

Mae angen rhaglenni i gynyddu niferoedd, gan gynnwys cynllunio ac ariannu lleoedd digonol ar gyrsiau hyfforddi athrawon.

 

Mae angen rhaglenni penodol i ddenu staff o’r sector cyfrwng Saesneg a’u cymhwyso’n ieithyddol.

 

Mae angen caniatáu i Mudiad Meithrin allu cyflogi staff ar raddfeydd sy’n cymharu’n ffafriol â staff ysgolion

 

Mae angen dileu’r angen i benaethiaid feddu ar gymhwyster PCPC

 

Cymraeg ail iaith

 

Mae angen chwyldroi dysgu’r Gymraeg mewn ysgolion Saesneg.

 

Mae angen dileu’r gwahaniaeth rhwng Cymraeg iaith gyntaf a Chymraeg ail iaith trwy ddysgu’r pwnc ar gontinwwm, fel y gwneir gyda phob pwnc arall mewn ysgolion.

 

Nid yw’r CSGAau yn ddigon manwl wrth sôn am symud ysgolion ar hyd y continwwm ieithyddol, dim digon o fanylder, amserlen pendant ayb

 

Caiff ei gydnabod erbyn hyn bod dysgu’r Gymraeg yn ail iaith wedi bod yn fethiant cyffredinol, fel y mae sawl adroddiad wedi’i gasglu, gan gynnwys y diweddaraf, sef Adroddiad dan gadeiryddiaeth yr Athro Sioned Davies.  Mae angen symud ar fyrder i weithredu ar ganfyddiadau’r Adroddiad pwysig hwnnw a chytuno ar gamau pendant wedi’i hymgorffori yn y CSGAau.

 

Mae angen chwyldroi dysgu’r Gymraeg i ddisgyblion di-Gymraeg mewn ysgolion Saesneg, fel bod y rhaglen ddysgu’n cyflwyno sgiliau ieithyddol digonol i weithredu’n elfennol mewn gwlad ddwyieithog.  Mae angen cofio mai ysgolion Cymraeg yw’r unig fodel sy’n cyflwyno sgiliau dwyieithog cyflawn.

 

Adroddiad Donaldson

 

Er bod Adroddiad Donaldson yn cydnabod cyfraniad addysg Gymraeg, dyw’r adroddiad ddim yn cynnig gweledigaeth am rôl addysg Gymraeg wrth greu gwlad ddwyieithog.


Mae gan Lywodraeth Cymru’r nod o greu gwlad ddwyieithog.  Mae adroddiad Donaldson fel pe bai’n trafod y Gymraeg yn bwnc, ymysg pynciau eraill.  Er ei fod yn cydnabod gwerth ysgolion Cymraeg, ac am eu gweld yn ganolbwynt i hyrwyddo arfer da, dyw’r adroddiad ddim yn cynnig gweledigaeth ar gyfer y twf y mae’n rhaid i ni ei weld mewn addysg Gymraeg.”

Mae’n dda bod yr adroddiad am weld y Gymraeg yn cael ei datblygu’n iaith drafod mewn ysgolion Saesneg. Y ffordd orau o wneud hyn yw defnyddio’r iaith fel cyfrwng, a dyw’r adroddiad ddim yn cynnig ffordd ymlaen yn hyn o beth.

Wrth i ni a’r Llywodraeth drafod adroddiad Donaldson, mae angen cael gweledigaeth glir am rôl y Gymraeg mewn addysg wrth i ni greu Cymru ddwyieithog.